Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 13 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13.30 - 17.20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC Jocelyn Davies AC Keith Davies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Nick Capaldi, Cyngor Celfyddydau Cymru Richard Davies, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg Tony Evans, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru Hywel Tudor, Cyngor Celfyddydau Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru John Dwight, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Richard Bettley (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14:
1.1 Trafododd yr Aelodau y papurau briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn y sesiynau craffu gyda Chomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones a Julie Morgan. Dirprwyodd Jocelyn Davies a Keith Davies ar eu rhan.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Syr Derek Jones yn gofyn a oes polisi sy'n ymwneud â phecynnau diswyddo ac, os felly, a ydynt yn gymwys i staff ar bob gradd.
3.1 Rheoli Cyflyrau Cronig: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (30 Medi 2014)
3.2 Cyfrifon Blynyddol Cyfun Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Syr Derek Jones (6 Hydref 2014)
4 Y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Gohebiaeth y Pwyllgor
4.1 Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth ac roeddent yn cefnogi cais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i Archwilydd Cyffredinol Cymru wneud trefniadau i archwilio'r data sy'n sail i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ym Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru i'r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi gwybod iddo am ei benderfyniad.
5 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Comisiynydd Plant Cymru
5.1 Craffodd y Pwyllgor ar Gyfrifon Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2013-14, gan holi Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru a Tony Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol.
5.2 Cytunodd Comisiynydd Plant Cymru i ddarparu manylion am gost prydlesu'r car, a sut y mae'r costau hynny'n cymharu â'r defnydd o gerbyd preifat. Cytunodd hefyd i ddarparu manylion am y cynnydd mewn gwariant gweinyddol arall o £18,000 rhwng 2012-13 a 2013-14.
6 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Comisiynydd y Gymraeg
6.1 Craffodd y Pwyllgor ar Gyfrifon Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2013-14, gan holi Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg a Richard Davies, y Swyddog Cyllid.
7 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14
6.1 Craffodd y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14, gan holi Nick Capaldi, y Prif Weithredwr a Hywel Tudor, y Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau.
6.2 Cytunodd Nick Capaldi i ddarparu rhagor o wybodaeth am y cynllun benthyciadau 'Collectorplan', gan gynnwys cymhwysedd gwaith celf, rhywedd, incwm a daearyddiaeth. Cytunodd hefyd i ddarparu nodyn ar sut y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu'r strategaeth i wella cyfranogiad pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fel rhan o'u targedau ar gyfer 2014-15 a'u nodau ar gyfer 2018.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ysgrifennu at Dr Shooter fel rhan o'i adolygiad o'r Comisiynydd Plant ar y materion a godwyd, yn ogystal ag ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch lefel yr adnoddau.
10 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am rannau o'r Adroddiad Blynyddol na chawsant eu holi yn eu cylch oherwydd prinder amser.